Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Pennwyd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“CyngACC”) yn awdurdod cymwys yn Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 wedi eu gwneud o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae Rheoliadau 2007 yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/36/EC ar system gyffredinol o gydnabod cymwysterau proffesiynol. Mae adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 yn darparu bod CyngACC i barhau i fodoli ond ei fod yn cael ei ailenwi yn Gyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Bydd y Cyngor yn parhau i fod yn awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau 2007.

Rhoddodd Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 (“Gorchymyn 2005”) i CyngACC y swyddogaeth o weithredu fel awdurdod dynodedig. Fel awdurdod dynodedig, roedd CyngACC i ymdrin â cheisiadau oddi wrth bersonau a oedd wedi cymhwyso mewn gwladwriaeth berthnasol (aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd) i’w cymwysterau proffesiynol gael eu cydnabod. Rhoddodd Gorchymyn 2005 hefyd i CyngACC y swyddogaeth ychwanegol o roi gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd am y gofynion o ran cydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a geir mewn gwladwriaeth berthnasol. Mae’r Gorchymyn hwn yn ailddeddfu Gorchymyn 2005.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dirymu Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Rhoddodd y Gorchymyn hwnnw swyddogaethau ychwanegol i CyngACC mewn perthynas â chynnal cofnodion mewn cysylltiad â phersonau sydd wedi eu cofrestru ag ef. Rhagwelir y bydd y ddarpariaeth mewn perthynas â chynnal cofnodion o’r fath gan y Cyngor yn cael ei chynnwys yn Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”). Nid yw Rheoliadau 2015 mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn a rhagwelir y bydd Rheoliadau 2015 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

 

 


Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015

Gwnaed                                                2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       2015

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5 a 47(1) a (2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]), ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mae’r Gorchmynion a nodir yn yr Atodlen wedi eu dirymu.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “gwladwriaeth berthnasol” (“relevant state”) yw gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/36/EC([2]) ar system gyffredinol o gydnabod cymwysterau proffesiynol; ac

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau’r Gymuned Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007([3]).

Swyddogaethau Ychwanegol

3.(1)(1) Mae Cyngor y Gweithlu Addysg, ac yntau wedi ei bennu’n awdurdod cymwys yn unol â’r Rheoliadau, i gael y swyddogaeth o ystyried ceisiadau a rhoi awdurdodiadau i arfer proffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru at ddiben y Gyfarwyddeb.

(2) Mae’r Cyngor i roi cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd am y gofynion o ran cydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a geir mewn gwladwriaeth berthnasol.

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad


                   YR ATODLEN        Erthygl 1

Y GORCHMYNION A DDIRYMIR

 

 

Y gorchmynion a ddirymir

Cyfeiriadau

Graddau’r dirymu

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000

O.S. 2000/1941

(Cy. 139)

Yn llawn

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001

O.S. 2001/2497

(Cy. 201)

Yn llawn

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005

O.S. 2005/36

(Cy. 3)

Yn llawn

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005

O.S. 2005/68

(Cy. 6)

Yn llawn

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2006

O.S. 2006/1341

(Cy. 132)

Yn llawn

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2007

O.S. 2007/2810

(Cy. 237)

Yn llawn

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2009

O.S. 2009/1351

(Cy. 127)

Yn llawn

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012

O.S. 2012/167

(Cy. 26)

Yn llawn

 



([1])           2014 dccc 5.

([2])           OJ Rhif L255, 30.9.2005, t. 22, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/100/EC ddyddiedig 20 Tachwedd 2006, OJ Rhif L363, 20.12.2006, t. 141.

([3])           O.S. 2007/2781.